Llywodraeth Cymru
Baner digwyddiad Wythnos Hinsawdd Cymru 2023- 4-8 Rhagfyr

Cynhelir Wythnos Hinsawdd Cymru bob mis Tachwedd, ac mae’n adeiladu ar uwchgynhadledd newid hinsawdd Cynhadledd y Partïon (COP) er mwyn annog trafodaethau cenedlaethol a rhanbarthol ynglŷn â newid hinsawdd. Sefydlwyd y digwyddiad hwn yn 2019 mewn ymateb i adborth gan ein rhanddeiliaid – sef bod “siarad am newid hinsawdd yn bwysig”. Mae’r digwyddiad yn rhan o raglen ymgysylltu ehangach a bennir yn ‘Newid yn yr Hinsawdd – Dull Ymgysylltu Llywodraeth Cymru 2022-2026’.

Bydd yr wythnos yn dwyn ynghyd bartneriaid Tîm Cymru – yn cynnwys cyrff a rhwydweithiau’r sector cyhoeddus, busnesau a chyrff diwydiant, mudiadau amgylcheddol, sefydliadau academaidd, elusennau, rhwydweithiau’r trydydd sector a grwpiau cymunedol, rhwydweithiau hygyrchedd, a grwpiau a rhwydweithiau pobl ifanc – i ystyried sut y gallant fynd ati ar y cyd i gyflawni polisïau a rhaglenni sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd.

Bydd yr wythnos yn rhan ganolog o’n ‘dull sy’n canolbwyntio ar bobl’, a bydd yn bwysig o ran cyd-lunio atebion ar gyfer delio â newid hinsawdd trwy gynnwys amryw byd o gyfranogwyr a sectorau. Bydd hefyd yn hyrwyddo’r arfer o ‘groesbeillio’ syniadau rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat, academaidd a gwirfoddol – sectorau na fyddent, o bosibl, yn dod at ei gilydd fel arfer i gynnal trafodaethau.

Yn 2019 cynhaliwyd cynhadledd ‘yn y cnawd’, ond o 2020 penderfynwyd cynnal cynhadledd rithwir oherwydd y pandemig COVID-19. Arweiniodd hyn at gynnydd mawr yn y nifer o bobl sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad.

Er mai Llywodraeth Cymru sy’n trefnu’r digwyddiad, rhoddir pwyslais ar gynnig llwyfan i eraill er mwyn iddynt allu cynnal digwyddiadau a rhannu cynnwys, oherwydd cydnabyddir y bydd ymgysylltu effeithiol a dull cydweithredol gyda phartneriaid cyflawni cenedlaethol, rhanbarthol a lleol eraill yn cyflwyno llawer o safbwyntiau gwahanol. Bydd hefyd yn hollbwysig o ran llunio a chyflawni nifer o’r atebion y mae eu hangen i wireddu’r weledigaeth o gael Cymru wyrddach, gryfach a thecach.

 

Hygyrchedd          Cwcis         Datganiad hawlfraint       Polisi preifatrwydd gwefan       Telerau ac amodau

                                                                                               Cysylltwch â ni:​ climatechange@gov.wales