Llywodraeth Cymru

Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn dychwelyd ym mis Tachwedd, gan ddod â phobl ynghyd o bob rhan o Gymru i ddysgu ac archwilio atebion arloesol ar gyfer mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo. Bydd yr Wythnos eleni yn cyd-fynd â chynhadledd newid hinsawdd COP29 y Cenhedloedd Unedig. Bydd yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch yr hinsawdd, rhanddeiliaid, grwpiau cymunedol a phobl o bob rhan o Gymru archwilio sut y gallwn, gyda’n gilydd, leihau’r risg a pharatoi ar gyfer effeithiau newid yn yr hinsawdd a pharatoi ar eu cyfer, yn ogystal â manteisio ar y cysylltiadau â lliniaru newid yn yr hinsawdd.

Ymunwch â thrafodaethau am gamau sy’n digwydd yn rhyngwladol ac o fewn Cymru i addasu ein cartrefi, ein cymunedau a’n busnesau i dywydd poeth, sychder, stormydd, llifogydd ac erydu arfordirol cynyddol. Dysgwch fwy am sut y gallwn ddiogelu ein systemau cynhyrchu bwyd, adnoddau naturiol, seilwaith ac amgylchedd adeiledig a sicrhau ein bod yn barod ar gyfer dyfodol mwy gwydn yn yr hinsawdd.

Helpwch ni i hyrwyddo'r Wythnos ar draws eich rhwydweithiau trwy lawrlwytho a rhannu'r asedau yn y Pecyn Cymorth Hyrwyddo.

Bydd rhaglen eleni yn cynnwys y digwyddiadau a’r gweithgareddau canlynol:

 

Cynhadledd rithiol 5 diwrnod

Yn cael ei chynnal rhwng dydd Llun 11 – dydd Gwener 15 Tachwedd, cynulleidfa darged y gynhadledd yw rhanddeiliaid hinsawdd (e.e. y sector cyhoeddus, rhwydweithiau diwydiant a busnes a sefydliadau trydydd sector) sydd â rôl mewn cyflawni polisïau, rhaglenni a mentrau hinsawdd. Ond nid yw presenoldeb yn gyfyngedig, ac mae cofrestru am ddim i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â'r drafodaeth.

Cronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd

Mae ceisiadau ar gyfer y gronfa sgwrs hinsawdd bellach wedi cau. Nod y gronfa yw cefnogi sefydliadau sydd â chysylltiadau sefydledig â grwpiau cymunedol i gynnal digwyddiadau lleol i annog pobl i ymuno mewn sgyrsiau ar thema ganolog yr Wythnos, sef “addasu i’n hinsawdd newidiol”. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau’r Sgwrs Hinsawdd oedd dydd Llun 14 Hydref 2024.

Dysgwch fwy am y gronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd

Digwyddiadau ymylol

Os ydych yn bwriadu cynnal ac ariannu eich digwyddiad eich hun i gyd-fynd â’r Wythnos, yna cysylltwch â ni a byddwn yn cyhoeddi manylion eich digwyddiad ar galendr digwyddiadau ymylol newydd Wythnos Hinsawdd Cymru a gyhoeddir yn fuan.

Cwblhewch ffurflen fer i roi gwybodaeth am eich digwyddiad

 

Adnoddau

Os hoffech i ni rannu eich fideos, adnoddau neu becynnau cymorth ar newid yn yr hinsawdd gydag eraill yn ystod yr Wythnos.

Gyflwyno gydag unrhyw astudiaethau achos, adnoddau neu gynnwys yr hoffech i ni eu cynnwys ar y wefan.

Cyflwynwch eich gwybodaeth am adnoddau

Gweithredwch

Ewch i’r dudalen Cymerwch Ran i lawrlwytho ein pecyn cymorth hyrwyddo, cwblhewch ein harolwg, cyfeiriwch at www.gweithreduarhinsawdd.llyw.cymru, gwnewch addewid a chofrestru ar gyfer ein cylchlythyr hinsawdd.

Os hoffech chi rannu unrhyw syniadau ar gyfer yr Wythnos neu os oes gennych chi gwestiwn cyffredinol, cysylltwch â ni trwy e-bost ar walesclimateweek@freshwater.co.uk.

 

                          Hygyrchedd                                 Polisi preifatrwydd gwefan                               Telerau ac amodau


Cysylltwch â ni:​ climatechange@gov.wales